14 Mae'r bobloedd dych chi ar fin cymryd eu tir nhw yn gwrando ar bobl sy'n dweud ffortiwn ac yn dewino. Ond mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrthoch chi am beidio gwneud pethau felly.
15 “Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus arno fe.
16 Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai, dyma chi'n gofyn i'r ARGLWYDD: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, neu orfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’
17 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Maen nhw'n iawn.
18 Bydda i'n codi proffwyd arall fel ti o'u plith nhw. Bydda i'n rhoi neges iddo ei chyhoeddi, a bydd e'n dweud beth dw i'n ei orchymyn.
19 Bydd e'n siarad drosta i, a bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar beth mae e'n ddweud yn atebol i mi.’
20 Ond os bydd unrhyw broffwyd yn honni siarad drosta i heb i mi ddweud wrtho am wneud hynny, neu'n siarad ar ran duwiau eraill, rhaid i'r proffwyd hwnnw farw.