12 Rhaid i arweinwyr y dref lle mae'n byw anfon dynion i'w arestio a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a'i ladd e.
13 Peidiwch teimlo trueni dros lofrudd. Ddylai pobl ddiniwed ddim cael eu lladd yn Israel.
14 “Peidiwch symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall. Cafodd ffiniau dy etifeddiaeth eu gosod gan dy hynafiaid yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti ei chymryd.
15 “Dydy un tyst ddim yn ddigon i gael rhywun yn euog o drosedd. Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.
16 Os ydy tyst yn dweud celwydd a chyhuddo rhywun o ryw drosedd,
17 rhaid i'r ddau fynd i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, i'r offeiriaid a'r barnwyr benderfynu ar y ddedfryd.
18 Byddan nhw'n edrych yn fanwl ar yr achos, ac os byddan nhw'n darganfod fod y tyst wedi dweud celwydd,