18 Byddan nhw'n edrych yn fanwl ar yr achos, ac os byddan nhw'n darganfod fod y tyst wedi dweud celwydd,
19 bydd e'n cael y gosb oedd e wedi ei bwriadu i'r llall ei gael. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
20 Bydd gweddill y bobl yn clywed beth ddigwyddodd, a bydd ganddyn nhw ofn gwneud pethau mor ddrwg.
21 Peidiwch teimlo trueni. Mae'r gosb i ffitio'r drosedd – bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.