9 a chithau'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi (sef caru'r ARGLWYDD eich Duw a byw fel mae e eisiau i chi fyw), rhaid i chi ddewis tair tref arall at y tair sydd gynnoch chi eisoes.
10 Does dim eisiau i bobl gael eu dienyddio os ydyn nhw'n ddieuog. Ddylai peth felly ddim digwydd yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi.
11 “Ond os ydy rhywun yn casáu person arall, disgwyl amdano, ymosod arno a'i ladd, ac wedyn yn dianc i un o'r trefi yma, dyma sydd i ddigwydd:
12 Rhaid i arweinwyr y dref lle mae'n byw anfon dynion i'w arestio a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a'i ladd e.
13 Peidiwch teimlo trueni dros lofrudd. Ddylai pobl ddiniwed ddim cael eu lladd yn Israel.
14 “Peidiwch symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall. Cafodd ffiniau dy etifeddiaeth eu gosod gan dy hynafiaid yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti ei chymryd.
15 “Dydy un tyst ddim yn ddigon i gael rhywun yn euog o drosedd. Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.