1 “A dyma ni'n troi'n ôl i gyfeiriad yr anialwch a'r Môr Coch, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni. Buon ni'n crwydro o gwmpas cyrion bryniau Seir am amser hir iawn.
2 “Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i,
3 ‘Dych chi wedi bod yn crwydro o gwmpas y mynyddoedd yma yn llawer rhy hir. Trowch am y gogledd.
4 A dywed hyn wrth y bobl, “Dych chi ar fin croesi'r ffin i diriogaeth pobl Edom, sy'n perthyn i chi (sef disgynyddion Esau). Ond bydd ganddyn nhw eich ofn chi, felly byddwch yn ofalus.
5 Peidiwch bygwth nhw. Dw i ddim yn mynd i roi modfedd sgwâr o'u tir nhw i chi. Dw i wedi rhoi bryniau Seir i ddisgynyddion Esau.
6 Felly talwch iddyn nhw am eich bwyd a'ch diod.
7 Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi ei wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy'r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.”’