10 (Yr Emiaid oedd yn byw yno ar un adeg – tyrfa o gewri cryfion fel yr Anaciaid.
11 Enw pobl Moab arnyn nhw oedd Emiaid. Roedd pobl eraill yn eu galw nhw a'r Anaciaid yn Reffaiaid.
12 A'r Horiaid oedd yn arfer byw yn Seir, ond roedd disgynyddion Esau wedi eu concro nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd. A dyna'n union wnaeth Israel yn y tir y daethon nhw i'w gymryd, sef y tir roddodd yr ARGLWYDD iddyn nhw.)
13 “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a croesi Wadi Sered.’ A dyna wnaethon ni.
14 “Felly roedd tri deg wyth mlynedd wedi mynd heibio rhwng cyrraedd Cadesh-barnea y tro cyntaf, a chroesi'r Wadi Sered. Erbyn hynny roedd y genhedlaeth gyfan o filwyr oedd yn Cadesh wedi marw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo ar lw.
15 Yn wir, yr ARGLWYDD ei hun oedd wedi cael gwared â nhw, a gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd wedi mynd.
16 Felly, pan oedd yr olaf o'r milwyr hynny wedi marw,