16 Felly, pan oedd yr olaf o'r milwyr hynny wedi marw,
17 dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i,
18 ‘Heddiw dych chi'n mynd i groesi tir Moab, wrth Ar.
19 Pan ddowch chi at dir pobl Ammon, peidiwch tarfu arnyn nhw ychwaith na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi ei roi e iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’”
20 (Roedd y tir yma hefyd yn arfer perthyn i'r Reffaiaid. Nhw oedd yn byw yno'n wreiddiol. Enw pobl Ammon arnyn nhw oedd Samswmiaid –
21 tyrfa fawr arall o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi eu dinistrio nhw, ac roedd pobl Ammon wedi setlo i lawr ar eu tiroedd.
22 A dyna'n union oedd wedi digwydd gyda disgynyddion Esau sy'n dal i fyw hyd heddiw yn ardal Seir. Roedd yr ARGLWYDD wedi dinistrio'r Horiaid oedd yn byw yno o'u blaenau nhw.