17 dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i,
18 ‘Heddiw dych chi'n mynd i groesi tir Moab, wrth Ar.
19 Pan ddowch chi at dir pobl Ammon, peidiwch tarfu arnyn nhw ychwaith na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi ei roi e iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’”
20 (Roedd y tir yma hefyd yn arfer perthyn i'r Reffaiaid. Nhw oedd yn byw yno'n wreiddiol. Enw pobl Ammon arnyn nhw oedd Samswmiaid –
21 tyrfa fawr arall o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi eu dinistrio nhw, ac roedd pobl Ammon wedi setlo i lawr ar eu tiroedd.
22 A dyna'n union oedd wedi digwydd gyda disgynyddion Esau sy'n dal i fyw hyd heddiw yn ardal Seir. Roedd yr ARGLWYDD wedi dinistrio'r Horiaid oedd yn byw yno o'u blaenau nhw.
23 A'r un fath gyda'r Afiaid oedd yn byw mewn pentrefi mor bell â Gasa yn y de. Y Philistiaid o ynys Creta wnaeth eu dinistrio nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd.)