24 “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a croesi Ceunant Arnon. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i chi dros Sihon yr Amoriad, brenin Cheshbon. Ewch i goncro ei dir! Ewch i ryfel yn ei erbyn!
25 O heddiw ymlaen bydd pobl ym mhobman yn dychryn ac yn ofni pan fyddan nhw'n clywed amdanoch chi. Byddan nhw'n crynu mewn ofn wrth i chi ddod yn agos.’”
26 “Pan oedden ni yn anialwch Cedemoth, dyma fi'n anfon negeswyr at y brenin Sihon yn Cheshbon, yn cynnig telerau heddwch.
27 ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Gwnawn ni aros ar y briffordd, a mynd yn syth trwodd.
28 Gwnawn ni dalu am unrhyw fwyd neu ddŵr fyddwn ni ei angen. Dŷn ni ond am i ti adael i ni basio drwy'r wlad –
29 fel gwnaeth disgynyddion Esau yn Seir a'r Moabiaid yn Ar. Yna byddwn ni'n croesi'r Afon Iorddonen i'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni.’
30 “Ond doedd y Brenin Sihon o Cheshbon ddim yn fodlon gadael i ni groesi ei dir. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn galed ac ystyfnig, er mwyn i chi ei goncro.