28 Gwnawn ni dalu am unrhyw fwyd neu ddŵr fyddwn ni ei angen. Dŷn ni ond am i ti adael i ni basio drwy'r wlad –
29 fel gwnaeth disgynyddion Esau yn Seir a'r Moabiaid yn Ar. Yna byddwn ni'n croesi'r Afon Iorddonen i'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni.’
30 “Ond doedd y Brenin Sihon o Cheshbon ddim yn fodlon gadael i ni groesi ei dir. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn galed ac ystyfnig, er mwyn i chi ei goncro.
31 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dw i'n rhoi Sihon a'i dir i chi. Ewch ati i gymryd y wlad drosodd.’
32 “Pan ddaeth Sihon a'i fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Iahats,
33 dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni i'w drechu. Cafodd Sihon, ei feibion, a'i fyddin i gyd eu lladd.
34 Dyma ni'n concro a dinistrio'r trefi i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw – hyd yn oed gwragedd a phlant.