34 Dyma ni'n concro a dinistrio'r trefi i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw – hyd yn oed gwragedd a phlant.
35 Dim ond yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr, wnaethon ni ei gadw.
36 Dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu i goncro pob tref o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a'r dref sydd yn y dyffryn ei hun, yr holl ffordd i Gilead yn y gogledd.
37 Ond fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, wnaethon ni ddim cymryd tir pobl Ammon, wrth ymyl Afon Jabboc, na'r trefi yn y bryniau.