5 Peidiwch bygwth nhw. Dw i ddim yn mynd i roi modfedd sgwâr o'u tir nhw i chi. Dw i wedi rhoi bryniau Seir i ddisgynyddion Esau.
6 Felly talwch iddyn nhw am eich bwyd a'ch diod.
7 Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi ei wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy'r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.”’
8 “Felly dyma ni'n pasio heibio'n perthnasau, disgynyddion Esau, oedd yn byw yn Seir. Troi oddi ar y ffordd i Ddyffryn Iorddonen ac osgoi trefi Elat ac Etsion-geber, a teithio ymlaen i gyfeiriad tiroedd anial Moab.
9 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Peidiwch tarfu ar bobl Moab na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi rhoi Moab iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’”
10 (Yr Emiaid oedd yn byw yno ar un adeg – tyrfa o gewri cryfion fel yr Anaciaid.
11 Enw pobl Moab arnyn nhw oedd Emiaid. Roedd pobl eraill yn eu galw nhw a'r Anaciaid yn Reffaiaid.