2 Cyn i'r ymladd ddechrau, dylai'r offeiriad siarad â'r milwyr, a dweud,
3 ‘Ddynion Israel, gwrandwch! Dych chi ar fin mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn. Peidiwch panicio.
4 Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi i ymladd yn erbyn eich gelynion, a'ch helpu chi i ennill y frwydr.’
5 “Yna mae'r swyddogion i ddweud wrth y milwyr, ‘Oes rhywun yma wedi adeiladu tŷ ac heb ei gyflwyno i Dduw? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gysegru'r tŷ.
6 Oes rhywun yma wedi plannu gwinllan, ac heb eto gael ffrwyth ohoni? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gael y ffrwyth.
7 Neu oes rhywun yma sydd wedi dyweddïo gyda merch, ond heb eto ei phriodi hi? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall ei phriodi hi.’
8 Maen nhw hyd yn oed i ddweud, ‘Oes rhywun yma sy'n nerfus ac yn ofnus? Gall fynd adre, rhag iddo wneud i'r milwyr eraill golli hyder hefyd.’