7 Yna byddan nhw'n gwneud datganiad, ‘Wnaethon ni ddim lladd y person yma, a does neb yn gwybod pwy wnaeth.
8 Felly, ARGLWYDD, paid rhoi'r bai ar dy bobl Israel a'u dal nhw'n gyfrifol am dywallt gwaed rhywun diniwed.’ A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r drosedd.
9 Dyna sut mae symud yr euogrwydd fod person diniwed wedi ei ladd, a sut mae gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10 “Dyma sydd i ddigwydd os byddwch yn mynd i ryfel, a'r ARGLWYDD yn gadael i chi ennill y frwydr, a chymryd pobl yn garcharorion:
11 Os bydd un o'r carcharorion yn ferch hardd, ac un o'ch dynion chi yn ei ffansïo hi ac eisiau ei chymryd hi'n wraig,
12 mae i fynd â hi adre. Rhaid iddi siafio ei phen, a thorri ei hewinedd,
13 a thaflu i ffwrdd y dillad roedd hi'n eu gwisgo pan gafodd ei dal. Yna rhaid iddi aros yn y tŷ am fis cyfan, yn galaru am ei thad a'i mam. Dim ond ar ôl gwneud hynny y gall y dyn ei chymryd hi'n wraig a chael rhyw gyda hi.