1 Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i anwybyddu. Dos a'r anifail yn ôl at y perchennog.
2 Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo.
3 Gwna yr un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo – asyn, dilledyn, unrhyw beth sydd piau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth.
4 Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto.
5 Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.