12 Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell.
13 “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi.
14 Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’
15 Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.
16 Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Roeddwn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi yn ei herbyn hi,
17 a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth.
18 Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi.