27 roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi.
28 “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo,
29 rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi ei threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi.
30 “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.