5 Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
6 Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach.
7 Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a cei fyw'n hir.
8 Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.
9 Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi ei halogi ac yn dda i ddim.
10 Ddylai ychen ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig.
11 Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin.