1 Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi eu niweidio neu ei bidyn wedi ei dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
2 Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.)
3 Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
4 Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A hefyd dyma nhw'n talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi.