22 Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf.
23 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
24 Os ydych chi'n mynd trwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
25 Os ydych chi'n mynd trwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.