4 Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A hefyd dyma nhw'n talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi.
5 Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.
6 Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.
7 “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio eu ffieiddio nhw. A peidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw.
8 Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
9 Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
10 Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.