9 Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
10 Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.
11 Yna gyda'r nos rhaid iddo olchi ei hun gyda dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
12 Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
13 Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda pridd.
14 Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi.
15 Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e yn ôl i'w feistr.