1 Os ydy dyn wedi priodi, ac yna'n darganfod rhywbeth am ei wraig sy'n codi cywilydd arno, rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd.
2 Ar ôl iddi ei adael, mae hi'n rhydd i ailbriodi.
3 Os ydy'r ail ŵr ddim yn hapus gyda hi, rhaid iddo yntau roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Os bydd hynny'n digwydd, neu os bydd e'n marw,
4 dydy'r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi'n ôl, am ei bod bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â pechod ar y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w hetifeddu.