10 Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl.
11 Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan.
12 Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei got, a'i chadw dros nos fel gwystl.
13 Dylet roi'r got yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
14 Os ydy rhywun gwirioneddol dlawd yn gweithio i chi, peidiwch ei gam-drin a chymryd mantais ohono – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rywun o'r tu allan sy'n byw yn eich plith chi.
15 Dylech dalu ei gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
16 Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.