12 Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei got, a'i chadw dros nos fel gwystl.
13 Dylet roi'r got yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
14 Os ydy rhywun gwirioneddol dlawd yn gweithio i chi, peidiwch ei gam-drin a chymryd mantais ohono – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rywun o'r tu allan sy'n byw yn eich plith chi.
15 Dylech dalu ei gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
16 Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.
17 Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A peidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad.
18 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.