15 Dylech dalu ei gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
16 Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.
17 Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A peidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad.
18 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.
19 Pan fyddi'n casglu cynhaeaf dy dir, os byddi wedi gadael ysgub yn y cae, paid mynd yn ôl i'w chasglu. Gadael hi i'r bobl dlawd – mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddi di'n ei wneud.
20 Pan fyddwch chi'n ysgwyd eich coed olewydd i gasglu'r ffrwyth, peidiwch gwneud hynny ddwywaith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
21 Pan fyddwch chi'n casglu'r grawnwin yn eich gwinllan, peidiwch mynd trwyddi'r ail waith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.