3 Os ydy'r ail ŵr ddim yn hapus gyda hi, rhaid iddo yntau roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Os bydd hynny'n digwydd, neu os bydd e'n marw,
4 dydy'r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi'n ôl, am ei bod bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â pechod ar y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w hetifeddu.
5 Pan mae dyn newydd briodi, does dim rhaid iddo fynd allan i ymladd yn y fyddin na gorfod gwneud unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Dylai fod yn rhydd i aros adre am flwyddyn gyfan a mwynhau bywyd gyda'i wraig.
6 Ddylai neb gymryd maen melin yn warant ar fenthyciad. Byddai gwneud hynny fel cymryd bywyd ei hun yn flaendal.
7 Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith.
8 Pan fydd rhyw glefyd heintus ar y croen yn dechrau lledu, gwnewch yn union beth mae'r offeiriaid o lwyth Lefi yn ei ddweud. Dylech chi wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn iddyn nhw.
9 Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.