6 Ddylai neb gymryd maen melin yn warant ar fenthyciad. Byddai gwneud hynny fel cymryd bywyd ei hun yn flaendal.
7 Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith.
8 Pan fydd rhyw glefyd heintus ar y croen yn dechrau lledu, gwnewch yn union beth mae'r offeiriaid o lwyth Lefi yn ei ddweud. Dylech chi wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn iddyn nhw.
9 Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.
10 Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl.
11 Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan.
12 Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei got, a'i chadw dros nos fel gwystl.