7 Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith.
8 Pan fydd rhyw glefyd heintus ar y croen yn dechrau lledu, gwnewch yn union beth mae'r offeiriaid o lwyth Lefi yn ei ddweud. Dylech chi wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn iddyn nhw.
9 Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.
10 Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl.
11 Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan.
12 Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei got, a'i chadw dros nos fel gwystl.
13 Dylet roi'r got yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.