2 rhowch ffrwyth cyntaf pob cnwd i'r ARGLWYDD. Rhowch e mewn basged, a mynd ag e i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i gael ei addoli.
3 Dwedwch wrth yr offeiriad sy'n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i'n datgan heddiw fy mod i'n byw yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD dy Dduw addo i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ni.’
4 “Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y fasged a'i gosod o flaen allor yr ARGLWYDD.
5 Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i'r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw'n tyfu i fod yn genedl fawr, bwerus a niferus.
6 Ond dyma'r Eifftiaid yn ein cam-drin ni a'n gormesu ni, a'n gorfodi ni i wneud gwaith caled.
7 Felly dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm.
8 Felly dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.