7 Felly dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm.
8 Felly dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.
9 Yna daeth â ni yma, a rhoi'r tir yma i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.
10 Felly, ARGLWYDD, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir wyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i'w adael o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, a'i addoli e.
11 Wedyn gelli di a dy deulu, gyda'r Lefiaid a'r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau yr holl bethau da mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi i chi.
12 “Ar ôl casglu un rhan o ddeg o'ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i'w roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a'r gweddwon sy'n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta.
13 Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi ei roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di.