1 Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
2 Pan fyddwch chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw.
3 Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi.
4 Mae'r cerrig yma gyda plastr drostyn nhw i gael eu codi ar Fynydd Ebal.
5 Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn.
6 Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw.
7 Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw.