1 “Os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na'r cenhedloedd eraill i gyd.
2 Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi'n ufudd iddo:
3 Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi'n gweithio.
4 Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach.