10 Wedyn bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw'n eich parchu chi.
11 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau'n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i'r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i'w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl.
13 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
14 Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a peidio mynd i addoli duwiau eraill.
15 “Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!
16 Cewch eich melltithio ble bynnag dych chi'n gweithio.