13 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
14 Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a peidio mynd i addoli duwiau eraill.
15 “Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!
16 Cewch eich melltithio ble bynnag dych chi'n gweithio.
17 Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd.
18 Bydd eich plant, a chynnyrch eich tir wedi eu melltithio – fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach.
19 Cewch eich melltithio ble bynnag ewch chi.