21 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi'n llwyr o'r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd.
22 Byddwch yn dioddef o afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu.
23 Bydd yr awyr uwch eich pennau fel pres, a'r ddaear dan eich traed yn galed fel haearn, am fod dim glaw.
24 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o'r awyr nes byddwch chi wedi'ch difa.
25 Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd.
26 Bydd eich cyrff marw yn fwyd i'r holl adar ac anifeiliaid gwylltion, a fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.
27 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddioddef o'r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a'r cosi – a fydd dim gwella i chi.