3 Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi'n gweithio.
4 Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach.
5 Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd.
6 Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi.
7 Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!
8 Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi eich ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e'n mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi.
9 Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy'r bobl mae e wedi eu cysegru iddo'i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e'n ddweud a byw fel mae e eisiau.