31 Bydd eich ychen yn cael ei ladd o flaen eich llygaid, ond fyddwch chi ddim yn bwyta'r cig.Byddwch chi'n gwylio eich asyn yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi, a fyddwch chi ddim yn ei gael yn ôl.Bydd eich praidd o ddefaid yn cael eu cymryd gan eich gelynion, a fydd yna neb i'ch achub chi.
32 Bydd eich meibion a'ch merched yn cael eu rhoi i bobl eraill o flaen eich llygaid. Byddwch chi'n edrych amdanyn nhw, ac yn gallu gwneud dim i ddod â nhw'n ôl.
33 Bydd pobl dych chi ddim yn eu nabod yn mwynhau cynnyrch eich tir a ffrwyth eich gwaith caled, a byddwch chi'n cael eich gorthrymu a'ch sathru dan draed am weddill eich bywydau.
34 Bydd gweld hyn yn eich gyrru chi'n wallgof!
35 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i'ch gliniau a'ch coesau chwyddo – byddwch chi mewn poen drosoch, o'r corun i'r sawdl.
36 Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi, a'r brenin fyddwch chi wedi ei benodi drosoch, at bobl ydych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi'n addoli duwiau o bren a charreg.
37 Byddwch chi'n achos dychryn, wedi'ch gwneud yn esiampl ac yn destun sbort i'r bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi atyn nhw.