38 Byddwch chi'n hau lot fawr o had, ond yn medi ychydig iawn. Bydd locustiaid yn ei ddifetha.
39 Byddwch yn plannu gwinllannoedd a gofalu amdanyn nhw, ond gewch chi ddim yfed y gwin na chasglu'r grawnwin. Bydd pryfed yn eu bwyta nhw!
40 Bydd coed olewydd drwy'r wlad i gyd, ond gewch chi ddim ei roi ar eich hwynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o'r coed cyn aeddfedu.
41 Byddwch yn magu plant – bechgyn a merched – ond yn eu colli nhw. Byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaethion.
42 Bydd locustiaid swnllyd yn difetha'r coed a'r cnydau.
43 Bydd y bobl o'r tu allan sy'n byw gyda chi yn troi'n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi'n mynd yn is ac yn dlotach.
44 Byddan nhw'n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn!