40 Bydd coed olewydd drwy'r wlad i gyd, ond gewch chi ddim ei roi ar eich hwynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o'r coed cyn aeddfedu.
41 Byddwch yn magu plant – bechgyn a merched – ond yn eu colli nhw. Byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaethion.
42 Bydd locustiaid swnllyd yn difetha'r coed a'r cnydau.
43 Bydd y bobl o'r tu allan sy'n byw gyda chi yn troi'n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi'n mynd yn is ac yn dlotach.
44 Byddan nhw'n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn!
45 “Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac heb gadw'r gorchmynion a'r canllawiau roddodd e i chi.
46 Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a'ch disgynyddion.