48 felly byddwch chi'n gwasanaethu'r gelynion wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi'n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw'n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed bydd yn ddigon i'ch lladd chi!
49 “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i bobl o wlad bell godi yn eich erbyn chi. Byddan nhw'n dod o ben draw'r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw.
50 Pobl greulon, yn dangos dim parch at yr henoed, a dim trugaredd at bobl ifanc.
51 Byddan nhw'n dwyn eich anifeiliaid chi, a chnydau'r tir i gyd, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr. Fydd gynnoch chi ddim ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, lloi nac ŵyn ar ôl.
52 Byddan nhw'n gwarchae ar giatiau eich trefi amddiffynnol chi ac ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio – a chithau'n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw'n gwarchae ar drefi drwy'r wlad i gyd
53 a'ch cau chi i mewn, a bydd pethau'n mynd mor ofnadwy byddwch chi'n bwyta eich plant – ie, bwyta cnawd eich meibion a'ch merched!
54-55 Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i'w fwyta), a bydd e'n gwrthod rhannu gyda'i frawd, neu'r wraig mae'n ei charu, a'i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!