58 “Rhaid i chi wneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw.
59 Os na wnewch chi, bydd e'n eich cosbi chi a'ch disgynyddion yn drwm – salwch tymor hir ac afiechydon marwol.
60 Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro'r Aifft, a fydd dim iachâd.
61 Bydd yr ARGLWYDD yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr yn y diwedd.
62 Ar un adeg roedd cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw.
63 “Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a'ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o'r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd.
64 Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg – duwiau dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.