64 Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg – duwiau dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.
65 Fyddwch chi'n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi'n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith.
66 Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi'n dal yn fyw y diwrnod wedyn.
67 Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus – bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi!
68 Bydd yr ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar long, a'ch gyrru chi yn ôl i'r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu eich hunain yn gaethweision a caethferched i'ch gelynion, ond fydd neb eisiau eich prynu chi.”