1 Dyma amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i Moses ei wneud gyda phobl Israel pan oedden nhw ar dir Moab. Roedd hwn yn ychwanegol i'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw ar Fynydd Sinai.
2 Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gweld popeth wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i'r Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad.
3 Gwelsoch sut wnaeth e eu cosbi nhw, a'r gwyrthiau rhyfeddol wnaeth e.
4 Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi rhoi'r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy'n gweld na chlustiau sy'n clywed.