16 “Dych chi'n gwybod sut roedden ni'n byw yn yr Aifft, a sut roedd rhaid croesi'r gwahanol wledydd wrth deithio.
17 Dych chi wedi gweld eu pethau ffiaidd nhw, a'i heilun-dduwiau o bren, carreg, arian ac aur.
18 Gwnewch yn siŵr fod neb yn troi cefn ar yr ARGLWYDD ein Duw, a dechrau addoli duwiau'r cenhedloedd hynny – gŵr, gwraig, teulu na llwyth. Byddai hynny fel gadael i wreiddyn sy'n rhoi ffrwyth gwenwynig, chwerw, dyfu yn eich plith chi.
19 Mae person felly yn clywed amodau'r ymrwymiad yma, ac eto'n dawel fach yn bendithio'i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu'n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio'r tir da gyda'r tir sych.
20 Fydd yr ARGLWYDD ddim yn maddau i'r person hwnnw. Bydd e'n wyllt gynddeiriog gydag e, a bydd y melltithion sydd yn y sgrôl yma yn dod arno. Bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared ag e'n llwyr!
21 Bydd yr ARGLWYDD yn ei bigo allan o ganol llwythau Israel i gyd, yn union fel mae'r melltithion sydd yn sgrôl y Gyfraith yn dweud.
22 “Bydd eich disgynyddion, a pobl sy'n teithio o wledydd pell, yn gweld fel roedd y wlad wedi dioddef o'r afiechydon a'r trasiedïau wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon.