21 Bydd yr ARGLWYDD yn ei bigo allan o ganol llwythau Israel i gyd, yn union fel mae'r melltithion sydd yn sgrôl y Gyfraith yn dweud.
22 “Bydd eich disgynyddion, a pobl sy'n teithio o wledydd pell, yn gweld fel roedd y wlad wedi dioddef o'r afiechydon a'r trasiedïau wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon.
23 Bydd y tir i gyd wedi ei ddifetha gan frwmstan a halen, sbwriel yn llosgi. Fydd dim yn cael ei blannu a fydd dim yn tyfu arno. Bydd fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboïm, gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD pan oedd e'n ddig.
24 A bydd y cenhedloedd i gyd yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad yma? Pam oedd e wedi gwylltio cymaint?’
25 A bydd pobl yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.
26 Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill – eilun-dduwiau oedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw, a ddim i fod i'w haddoli nhw.
27 Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a dyna pam wnaethon nhw ddioddef yr holl felltithion mae'r sgrôl yma'n sôn amdanyn nhw.