4 Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi rhoi'r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy'n gweld na chlustiau sy'n clywed.
5 Dw i wedi'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg mlynedd. Dydy'ch dillad chi ddim wedi difetha, na'ch sandalau chwaith.
6 Dych chi ddim wedi bwyta bara nac yfed gwin neu ddiod feddwol. A dw i wedi gwneud hyn i gyd er mwyn i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi!
7 Pan gyrhaeddoch chi yma, dyma Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, yn dod allan i ryfela yn ein herbyn ni, ond ni wnaeth ennill y frwydr.
8 Dyma ni'n cymryd eu tir nhw, a'i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse.
9 “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo.
10 Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw – arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion,