8 Dyma ni'n cymryd eu tir nhw, a'i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse.
9 “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo.
10 Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw – arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion,
11 plant, gwragedd, a'r bobl o'r tu allan sydd gyda chi, y rhai sy'n torri coed ac yn cario dŵr.
12 Dych chi i gyd yma i gytuno i amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud gyda chi.
13 Heddiw bydd e'n cadarnhau mai chi ydy ei bobl e, ac mai fe ydy eich Duw chi, fel gwnaeth e addo i chi ar lw i Abraham, Isaac a Jacob.
14 A dim chi sydd yma ydy'r unig rai dw i'n gwneud yr ymrwymiad yma gyda nhw,