1 “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei.
2 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’
3 “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd.
4 Dyma ni'n concro pob un o'i drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob.