14 Dyma Jair o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.)
15 “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.
16 “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Geunant Arnon (Ceunant Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Wadi Jabboc a ffin Ammon.
17 “Y ffin i'r gorllewin oedd Afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw gyda llethrau Pisga i'r dwyrain.
18 Bryd hynny dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd.
19 Bydd eich gwragedd a'ch plant, yn cael aros yn y trefi dw i wedi eu rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd (mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg).
20 Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi. Hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i Afon Iorddonen.’